Cyfarwyddiadau Canslo – ar gyfer contractau y cytunwyd arnynt i ffwrdd o eiddo masnach
Hawl i Ganslo
Mae gennych yr hawl i ganslo'r contract hwn yn ystod y 'cyfnod canslo' heb roi unrhyw reswm.
Mae'r cyfnod canslo yn para 14 diwrnod a bydd yn dechrau ar y diwrnod y caiff rhan olaf y nwyddau sy'n ymwneud â'r contract ei danfon atoch. Gallwch hefyd ganslo'r contract heb gosb cyn i unrhyw un o'r nwyddau gael eu danfon.
Er mwyn arfer yr hawl i ganslo, rhaid i chi roi gwybod i ni (gwelwch ein manylion cyswllt llawn ar ben y ffurflen hon) o'ch penderfyniad i ganslo'r contract hwn trwy ddatganiad clir (e.e. llythyr a anfonwyd drwy'r post, ffacs neu e-bost). Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ganslo enghreifftiol amgaeedig, ond nid yw'n orfodol.
Er mwyn bodloni'r dyddiad cau ar gyfer canslo, mae’n ddigon i chi anfon eich cyfathrebiad ynghylch eich arfer o’r hawl i ganslo cyn i’r cyfnod canslo ddod i ben.
Effeithiau Canslo
Os byddwch yn canslo’r contract hwn, byddwn yn ad-dalu’r holl daliadau a dderbyniwyd gennych, gan gynnwys costau danfon (ac eithrio’r costau atodol sy’n codi os byddwch yn dewis math o ddanfoniad heblaw’r math lleiaf costus o ddanfoniad safonol a gynigir gennym).
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud didyniad o’r ad-daliad am golled mewn gwerth unrhyw nwyddau a gyflenwir, os yw’r golled o ganlyniad i chi eu trin yn ddiangen.
Byddwn yn gwneud yr ad-daliad heb oedi gormodol, a heb fod yn hwyrach na:
a) 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwn yn derbyn yn ôl gennych unrhyw nwyddau a gyflenwir, neu
b) (os bydd yn gynharach) 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwch yn darparu tystiolaeth eich bod wedi dychwelyd y nwyddau, neu
c) Os na chafodd unrhyw nwyddau eu cyflenwi, 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y cawn wybod am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn.
Byddwn yn gwneud yr ad-daliad gan ddefnyddio'r un dull talu ag y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer y trafodyn cychwynnol, oni bai eich bod wedi cytuno'n benodol fel arall; beth bynnag, ni fyddwch yn mynd i unrhyw ffioedd o ganlyniad i'r ad-daliad.
Os ydych wedi derbyn nwyddau mewn cysylltiad â'r contract, byddwn yn casglu'r nwyddau ar ein cost ni.
Nid ydych ond yn atebol am unrhyw werth gostyngol o'r nwyddau sy'n deillio o'r trin ac eithrio'r hyn sy'n angenrheidiol i sefydlu natur, nodweddion a gweithrediad y nwyddau.
Gwaith wedi dechrau cyn i'r Cyfnod Canslo ddod i ben
Os ydych wedi cytuno’n ysgrifenedig y bydd gwaith gosod yn dechrau cyn i’r cyfnod canslo pedwar diwrnod ar ddeg ddod i ben, a’ch bod wedyn yn canslo yn unol â’ch hawliau, fe’ch cynghorir y gallai fod taliad rhesymol yn ddyledus am unrhyw waith a wneir. Rhaid i chi gadarnhau'n ysgrifenedig y gall y gwaith ddechrau cyn i'ch cyfnod canslo ddod i ben.
Credyd Cysylltiedig a Chytundebau Eraill
Os byddwch yn penderfynu canslo eich contract ar gyfer ein nwyddau a’n gwasanaethau, yna bydd unrhyw gytundeb credyd ac unrhyw gontractau ategol eraill sy’n ymwneud â’r prif gontract yn cael eu canslo’n awtomatig.